1. |
Weithiau Mae'n Anodd
03:58
|
|
||
Weithiau mae’n anodd yn y ddinas
Does neb yn gwbod bod ti’n genius
Cyflwr ariannol eitha' serious
Weithiau mae’n anodd bod
Weithiau mae'n anodd bod
Popeth yn neud o i deimlo’n anghyfforddus
Pan mae’n cerdded lawr y stryd, gweiddi ar y byd
Pawb yn edrych, pawb yn dechrau chwerthin
‘Sgeny fo ddim cliw, doesn’t know what to do
Woah woah oh oh, ar goll yn Llundain
Woah oh oh, well ganddo fo fyw yn Sbaen
Woah oh oh oh, hipsters ym mhobman
Mae’n strymio tan yr oriau mân
Ond does neb yn gwrando ar ei gân
Wastad yn rhedeg y tu ôl i’r gweddill
Dyle fo ffeindio swydd go iawn
‘Di gitâr ddim yn swydd go iawn
Ar ôl y cyngerdd, cyfarfod lot o ferched
Ond 'di nhw byth yn tecstio fo nôl
He’s got no hope at all
Woah oh oh oh, Y byd 'ma yn greulon
woah ohh, dinistr yn yr Amazon
woah woah, preocupation
mae’r Amazon i gyd ar dan
a neb yn gwrando ar ei gân
Weithiau mae’n anodd yn y ddinas
Does neb yn gwybod bod ti’n genius
Cyflwr ariannol eitha' serious,
Weithiau mae’n anodd bod,
weithiau mae’n anodd bod
Mae ganddo freuddwyd, rhywbeth anghyffredin
Yr unig gwestiwn yw beth sy’n digwydd wedyn?
I fod yn hapus be' mae pobl angen?
Rhywle neis i byw
a thipyn bach o rhyw-
-beth sy’n fwy na hyn
mwy na strydoedd du a gwyn
Mynadd wedi droi yn brin
S'dim dewis mae’n rhaid iddo fynd
See translation: https://www.lofijones.com/posts/weithiau-maen-anodd-sometimes-its-tough-allan-nawr-out-now
|
||||
2. |
Pwdu Yn Y Pentre
04:55
|
|||
Pwdu yn y pentre’ bach
Lle mae'r plant wedi diflasi'n llwyr
Mae 'na ddigonedd o awyr iach
Ond mae’r bysus yn brin
Delwedd brydferth, Ti yw'r penbleth
A mae meddwl i'n mynd i rywle pell o fan hyn
Lle mae'r golau fel cusan yn teimlo fel trydan
Ffigyrau yn dawnsio yng nghanol y chwildro
Rwy mond yn breuddwydio, ond dwi methu gwylio mwy
Yr un hen bethau sydd fan hyn
Dwi'm isio dysgu gyrru car
Llosgi olew pan mae'r byd ar dan
Isio safio pob un geiniog sbâr
A beicio dros y bryn
Pennau petrol, syth o’r ysgol
Yng nghanol y nos
Cadw fi o fy nghwsg
Maen nhw'n galw fo'n rhyddid
Ond i fi mae'n jyst swnllyd
A mae rhai o' ni'n dianc a rhai o ni'n styc
My careers advisor smiled and shrugged is it time you gave up?
Yr un hen bethau sydd fan hyn
Gad i mi drosgynnu
Cynnau fy mywyd i
Tydi realiti
Dim yn cyflawni
Mae bywyd mor fyr
A'i gychwyn yn cymryd rhy hir
Pwdu yn y pentre’ bach
A dwi’n cuddio yn fy ngwely, tu ôl i’r llenni llwyd
Gola' ola’r haf
Yn suddo dros y bryn
Adar mudol, eto’n gadael
Mi fynnai fynd hefyd, rywle bell o fan hyn
Ceisio codi ond rwy'n dal i ddisgyn
Awyrennau yn yr awyr las
Rhyddid a llygredd y benbleth atgas
Yr Yn hen bethau sydd fan hyn
|
||||
3. |
Afon
04:25
|
|||
Nerthol a chwim clywch ddyfroedd yr afon
O'r bannau gwyn i'r dyfnderau duon
Heddwch llwyr fe gewch pan mae'n dirion
Ond wedi gwylltio mae'n torri'ch calon
Disgyn mae'r glaw, yn drwm ar y dyffryn
Dim arwydd o seibiant ers iddo gychwyn
Lawr yn y dre mae'r strydoedd dan genllif
Dwr yn codi a llifo trwy'r cartref
Yng ngwaed y byd mae rhywbeth yn newid
Pethau ar goll na fydd yn dychwelyd
Yn y cymylau mae patrymau rhyfedd
Ni welais 'rioed y fath yma o dywydd
|
||||
4. |
Slag Heap
03:02
|
|||
Climb the slag heap before it gets dark
Trees are whispering, the wind is picking up
From up here I can see the valley and its scars
Where hammer blows and gunpowder forever left their mark
Above the rusted iron rails, above streets where we played
Before the wheels of capitol conveyed us on our way
I couldn’t tell you my place in this mad world
I don’t have answers when truth is so absurd
But here I see a shape to things mapped out in earth and stone
The chiselled crags and contour lines that etch into my bones
It aches my heart to leave this place but surely must I go
From these my mountains, my sanctuary
They say this land of ours was built on slate and coal
Running through that vein
The blood that made us whole
On this hillside their machines grow cold
But I still feel the ghost of the men who work below
And I wonder how far is left to go
To reach that promised land
Of which they spoke
Syllwch ddagrau a ddisgynnodd gynt
Hen ofidion sy’n anochel ar ein hynt
Wrth droi am adre, yr haul wedi mynd
Daw'r hiraeth i’m gofleidio fel hen ffrind.
|
||||
5. |
Mari Lwyd
03:22
|
|
||
O Mari Lwyd, gei di ddim dod mewn
ti'n dychryn y plant efo dy lygaid wag,
O Mari Lwyd be sy rhaid mi neud
i d'yrru di ffwrdd i mwydro rhywun arall?
Llygaid llawn gwacter yn sbïo i ninlle,
Yn canu dy gan fel chdi sy'n rhedeg y byd
ond wedi'r 'oll, mae rhaid fi edmygu
y ffordd ti mor 'styfnig
Ry’n ni yma i ganu, i ganu i ganu
Ry’n ni yma i ganu, Mari Lwyd,
Ry’n ni yma i ganu, a gofyn os nei di
ein gwahodd ni mewn am eich cwrw a bwyd
...
O Mr Jones, gad i ni ddod mewn
mae'n oer tu fas ac mae 'na syched arna ni
ar bwys y tân lle mae'n gynnes braf,
o annwyl ffrind
...
Mae 'na sgerbwd ceffyl,
heb benglog,
Rhywle yn y ddaear oer
Translation:
Oh Mari Lwyd, no you can't come in,
you scare the children with your empty eyes
Oh Mari Lwyd, what can I do,
to send you away, to pester someone else
Your eyes full of emptyness, looking to nowhere,
singing your song like you'r running the world,
but in the end, I have to admire
the way you're so stubborn
We're here to sing, to sing to sing,
we're here to sing, Mari Lwyd,
We're here to sing, and ask if you will
invite us in for some beer and food
...
Oh Mr Jones, let us please come in
Its cold outside and we're thirsty
Next to the fire where its nice and warm
oh dear friend
...
There's a horses skeleton,
without a skull
somewhere in the cold, hard ground...
|
||||
6. |
Cadw Ffydd
04:50
|
|
||
Yr un hen haul sy’n crwydro mewn i’n dyffryn gyda'r wawr
Taflu’r hen batrymau ar y tir
Ond y bore hon na welsom byth o blaen nac erioed
A be welwn erbyn swper pwy a wyr?
O mae na bryder un ein gwlad or teras llechu i’r cymmau glô
A newid ddaw os dymunwn hi nai beidio
Ond er gweithaf gyd a ddaw, rhwng y machlud ac y wawr
Rhoddaist i mi’r nerth, rhodaist i mi’r nerth
I beidio ildio
Yr un hen wynebau sy’n gwenu arna i
Pob tro rwyf yn cerdded lawr y stryd
Ac er na fedra i rhoi pob un enw I bob un
Yn fama bydd cymdeithas ni o hyd
O ni all pob un tafod cytuno ar bob dim
A mae na rai pontydd i losgi rhai i groesi
O mae na llwybrau pell I fynd, ond cofia di fy ffrind
Rydan ni o hyd, rydan ni o hyd
Yn goroesi
Rwy'n rhoi fy sgidia cadarn 'mlaen, a camu 'mlaen, a camu 'mlaen
Rhoi fy sgidia cadarn 'mlaen, a camu 'mlaen
Rwy'n rhoi fy sgidia cadarn 'mlaen, a camu 'mlaen, a camu 'mlaen
Rhoi fy sgidia cadarn 'mlaen a camu 'mlaen
Yr un hen alawon sydd heno ar fy nhaeth
Cymrodyr ffyddlon cyson yw o hyd
Ac er ddued y fagddu, trwy oriau dwys y nos
Ddaw eto bore gwyn a golau’r dydd
Mae na bryder yn ein gwlad
Or bannau ucha i’r lannau mor
A newid ddaw, dim cwestiwn nawr, mi fydd
Ond er bo’r allt yn serth
Gyda’n gilydd genym nerth
Cofio hyn sy rhaid. Cofia hyn ma rhaid
Cadw'r ffydd. Cadw Ffydd.
Translation:
It is the same old sun creeps into our valley at sunrise
Throwing familiar patterns on the land
But this morning we have not see before
And what we'll see by teatime who can say?
There's a trouble in this land from the slate terrace to the coal valleys
And change will come whether we wish it or not
But for all that will come, between the sunset and the dawn
You give me the strength not to give up
It's the same old faces that smile my way
Every time I walk down the street
And although I can't put a name to each one
Here will forever be our community
Not every tongue can agree on everything
And there are some bridges to burn some to cross
Oh there are long ways to go, but remember my friend
We are forever surviving
I put my sturdy shoes on and step forward and step forward
Put my sturdy shoes on and step forward
I put my sturdy shoes on and step forward and step forward
Put my sturdy shoes on and step forward
The same old tunes are with me tonight on my journey
Faithful comrades, constant and faithful
And despite the darkness, through the intense hours of night
Comes again fresh morning and daylight
There is concern in our country
From the highest peaks to the shores of the sea
And change will come, no question now, it will
But though the hill is steep
Together we have strength
Remembering this is a must. Remember this you must
Keep the faith. Keeping Faith
|
||||
7. |
|
|||
"Ble'r wyt ti'n myned, fy morwyn ffein i?"
"Myned i odro, O Syr," mynte hi.
"Dau rosyn coch a dau lygad du;
Yn y baw a'r llaca, O Syr, gwelwch fi!"
"A gaf fi ddod gyda thi, fy morwyn ffein i?"
"Cewch os dewiswch, O Syr," mynte hi.
"Dau rosyn coch a dau lygad du;
Yn y baw a'r llaca, O Syr, gwelwch fi!"
"A gaf fi un cusan, fy morwyn ffein i?"
"Beth ydyw hwnnw, O Syr," mynte hi/
"Dau rosyn coch a dau lygad du;
Yn y baw a'r llaca, O Syr, gwelwch fi!"
"A gaf fi dy briodi, fy morwyn ffein i?"
"Os bydd mam yn fodlon, O Syr," mynte hi.
"Dau rosyn coch a dau lygad du;
Yn y baw a'r llaca, O Syr, gwelwch fi!"
"Beth yw dy waddol, fy morwyn ffein i?"
"Cymaint ag a welwch, O Syr," mynte hi.
"Dau rosyn coch a dau lygad du;
Yn y baw a'r llaca, O Syr, gwelwch fi!"
"Yna ni'th briodaf, fy morwyn ffein i."
"Ni ofynais i chwi, O Syr" mynte hi.
"Dau rosyn coch a dau lygad du;
Yn y baw a'r llaca, O Syr, gwelwch fi!"
|
Lo-fi Jones Wales, UK
Bilingual band from Cymru, an ancient land in Far-West Eurasia
*
Enillwyr brwydr y bandiau gwerin 2023
yn yr Eisteddfod Cenedlaethol
*
Finalists on Cân i Gymru 2023
*
Shortlisted for Best Original English Language Song at the Welsh Folk Awards 2023
*
Supported by the Horizons/Gorwelion Launchpad Fund 2024
*
"Like an excellent home brew" - Adam Walton, BBC Radio Wales
... more
Streaming and Download help
Lo-fi Jones recommends:
If you like Lo-fi Jones, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp